Mathew 20:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Fel yr oeddent yn mynd allan o Jericho, dilynodd tyrfa fawr ef.

30. Yr oedd dau ddyn dall yn eistedd ar fin y ffordd, a phan glywsant fod Iesu yn mynd heibio, gwaeddasant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”

31. Ceryddodd y dyrfa hwy a dweud wrthynt am dewi, ond gweiddi'n fwy byth a wnaethant, “Syr, trugarha wrthym, Fab Dafydd.”

32. Safodd Iesu, a'u galw a dweud, “Beth yr ydych am i mi ei wneud i chwi?”

33. Meddent hwy wrtho, “Syr, mae arnom eisiau i'n llygaid gael eu hagor.”

34. Tosturiodd Iesu wrthynt a chyffyrddodd â'u llygaid, a chawsant eu golwg yn ôl yn y fan, a chanlynasant ef.

Mathew 20