9. Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu.”
10. Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi.”
11. Atebodd yntau, “Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly.
12. Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn.”
13. Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy,
14. ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.”
15. Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.
16. Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, “Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?”
17. A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.”
18. Meddai yntau wrtho, “Pa rai?” Atebodd Iesu, “ ‘Na ladd, na odineba, na ladrata, na chamdystiolaetha,
19. anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ ”
20. Dywedodd y dyn ifanc wrtho, “Yr wyf wedi cadw'r rhain i gyd. Beth arall sydd eisiau?”
21. Meddai Iesu wrtho, “Os mynni fod yn berffaith, dos, gwerth dy eiddo a dyro i'r tlodion, a chei drysor yn y nefoedd; a thyrd, canlyn fi.”