Mathew 19:9-17 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

9. Rwy'n dweud wrthych, pwy bynnag sy'n ysgaru ei wraig, ond am anffyddlondeb, ac yn priodi un arall, y mae'n godinebu.”

10. Dywedodd ei ddisgyblion wrtho, “Os dyma'r sefyllfa rhwng dyn a'i wraig, y mae'n well peidio â phriodi.”

11. Atebodd yntau, “Nid peth i bawb yw derbyn y gair hwn, dim ond i'r rhai a ddoniwyd felly.

12. Y mae rhai eunuchiaid sydd felly o groth eu mam, rhai sydd wedi eu gwneud yn eunuchiaid gan eraill, a rhai eto sydd wedi eu gwneud eu hunain yn eunuchiaid er mwyn teyrnas nefoedd. Boed i'r sawl sy'n gallu derbyn hyn ei dderbyn.”

13. Yna daethpwyd â phlant ato, iddo roi ei ddwylo arnynt a gweddïo. Ceryddodd y disgyblion hwy,

14. ond dywedodd Iesu, “Gadewch i'r plant ddod ataf fi a pheidiwch â'u rhwystro, oherwydd i rai fel hwy y mae teyrnas nefoedd yn perthyn.”

15. Ac wedi rhoi ei ddwylo arnynt, aeth oddi yno.

16. Dyma ddyn yn dod ato ac yn gofyn, “Athro, pa beth da a wnaf i gael bywyd tragwyddol?”

17. A dywedodd Iesu wrtho, “Pam yr wyt yn fy holi am yr hyn sy'n dda? Un yn unig sy'n dda. Ond os mynni fynd i mewn i'r bywyd, cadw'r gorchmynion.”

Mathew 19