Mathew 19:25-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, “Pwy felly all gael ei achub?”

26. Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, “Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl.”

27. Yna atebodd Pedr ef, “Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?”

28. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel.

29. A phob un a adawodd dai neu frodyr neu chwiorydd neu dad neu fam neu blant neu diroedd er mwyn fy enw i, caiff dderbyn ganwaith cymaint ac etifeddu bywyd tragwyddol.

Mathew 19