Mathew 19:24-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Rwy'n dweud wrthych eto, y mae'n haws i gamel fynd trwy grau nodwydd nag i rywun cyfoethog fynd i mewn i deyrnas Dduw.”

25. Pan glywodd y disgyblion hyn, synasant yn fawr ac meddent, “Pwy felly all gael ei achub?”

26. Edrychodd Iesu arnynt a dywedodd wrthynt, “Gyda dynion y mae hyn yn amhosibl, ond gyda Duw y mae pob peth yn bosibl.”

27. Yna atebodd Pedr ef, “Dyma ni wedi gadael pob peth a'th ganlyn di. Beth felly a gawn ni?”

28. Dywedodd Iesu wrthynt, “Yn wir, rwy'n dweud wrthych, pan enir yr oes newydd, pan fydd Mab y Dyn yn eistedd ar ei orsedd ogoneddus, byddwch chwi a'm canlynodd i hefyd yn eistedd ar ddeuddeg gorsedd gan farnu deuddeg llwyth Israel.

Mathew 19