Mathew 17:2-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. A gweddnewidiwyd ef yn eu gŵydd hwy, a disgleiriodd ei wyneb fel yr haul, ac aeth ei ddillad yn wyn fel y goleuni.

3. A dyma Moses ac Elias yn ymddangos iddynt, yn ymddiddan ag ef.

4. A dywedodd Pedr wrth Iesu, “Arglwydd, y mae'n dda ein bod ni yma; os mynni, gwnaf yma dair pabell, un i ti ac un i Moses ac un i Elias.”

5. Tra oedd ef yn dal i siarad, dyma gwmwl golau yn cysgodi drostynt, a llais o'r cwmwl yn dweud, “Hwn yw fy Mab, yr Anwylyd; ynddo ef yr wyf yn ymhyfrydu; gwrandewch arno.”

6. A phan glywodd y disgyblion hyn syrthiasant ar eu hwynebau a chydiodd ofn mawr ynddynt.

7. Daeth Iesu atynt a chyffwrdd â hwy gan ddweud, “Codwch, a pheidiwch ag ofni.”

8. Ac wedi edrych i fyny ni welsant neb ond Iesu yn unig.

9. Wrth iddynt ddod i lawr o'r mynydd gorchmynnodd Iesu iddynt, “Peidiwch â dweud wrth neb am y weledigaeth nes y bydd Mab y Dyn wedi ei gyfodi oddi wrth y meirw.”

10. Gofynnodd y disgyblion iddo, “Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?”

11. Atebodd yntau, “Bydd Elias yn dod ac yn adfer pob peth.

12. Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw.”

13. Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y bu'n sôn wrthynt.

14. Pan ddaethant at y dyrfa, daeth dyn at Iesu gan benlinio o'i flaen a dweud,

Mathew 17