16. Deuthum ag ef at dy ddisgyblion di, ac ni allasant hwy ei iacháu.”
17. Atebodd Iesu, “O genhedlaeth ddi-ffydd a gwyrgam, pa hyd y byddaf gyda chwi? Pa hyd y goddefaf chwi? Dewch ag ef yma ataf fi.”
18. Ceryddodd Iesu y cythraul, ac aeth allan ohono, ac fe iachawyd y bachgen o'r munud hwnnw.
19. Yna daeth y disgyblion at Iesu o'r neilltu a dweud, “Pam na allem ni ei fwrw ef allan?”
20. Meddai ef wrthynt, “Am fod eich ffydd chwi mor wan. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, os bydd gennych ffydd gymaint â hedyn mwstard, fe ddywedwch wrth y mynydd hwn, ‘Symud oddi yma draw’, a symud a wna. Ac ni fydd dim yn amhosibl i chwi.
22. Pan oeddent gyda'i gilydd yng Ngalilea dywedodd Iesu wrthynt, “Y mae Mab y Dyn i'w draddodi i ddwylo pobl,
23. ac fe'i lladdant ef, a'r trydydd dydd fe'i cyfodir.” Ac aethant yn drist iawn.