Mathew 17:10-14 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

10. Gofynnodd y disgyblion iddo, “Pam y mae'r ysgrifenyddion yn dweud bod yn rhaid i Elias ddod yn gyntaf?”

11. Atebodd yntau, “Bydd Elias yn dod ac yn adfer pob peth.

12. Ond rwy'n dweud wrthych fod Elias eisoes wedi dod, ond iddynt fethu ei adnabod, a gwneud iddo beth bynnag a fynnent; felly hefyd y mae Mab y Dyn yn mynd i ddioddef ar eu llaw.”

13. Yna deallodd y disgyblion mai am Ioan Fedyddiwr y bu'n sôn wrthynt.

14. Pan ddaethant at y dyrfa, daeth dyn at Iesu gan benlinio o'i flaen a dweud,

Mathew 17