Mathew 16:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara.

6. Meddai Iesu wrthynt, “Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”

7. Ac yr oeddent hwy'n trafod ymhlith ei gilydd gan ddweud, “Ni ddaethom â bara.”

8. Deallodd Iesu a dywedodd, “Chwi o ychydig ffydd, pam yr ydych yn trafod ymhlith eich gilydd nad oes gennych fara? A ydych eto heb weld?

9. Onid ydych yn cofio'r pum torth i'r pum mil a pha sawl basgedaid a gymerasoch i fyny?

10. Nac ychwaith y saith torth i'r pedair mil a pha sawl llond cawell a gymerasoch?

Mathew 16