Mathew 16:25-28 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

25. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i, fe'i caiff.

26. Pa elw a gaiff rhywun os ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd? Neu beth a rydd rhywun yn gyfnewid am ei fywyd?

27. Oherwydd y mae Mab y Dyn ar ddyfod yng ngogoniant ei Dad gyda'i angylion, ac yna fe dâl i bob un yn ôl ei ymddygiad.

28. Yn wir, rwy'n dweud wrthych, y mae rhai o'r sawl sy'n sefyll yma na phrofant flas marwolaeth nes iddynt weld Mab y Dyn yn dyfod yn ei deyrnas.”

Mathew 16