Mathew 16:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Ond atebodd ef hwy, “Gyda'r nos fe ddywedwch, ‘Bydd yn dywydd teg, oherwydd y mae'r wybren yn goch.’

3. Ac yn y bore, ‘Bydd yn stormus heddiw, oherwydd y mae'r wybren yn goch ac yn gymylog.’ Gwyddoch sut i ddehongli golwg y ffurfafen, ond ni allwch ddehongli arwyddion yr amserau.

4. Cenhedlaeth ddrygionus ac annuwiol sy'n ceisio arwydd, eto ni roddir arwydd iddi ond arwydd Jona.” A gadawodd hwy a mynd ymaith.

5. Pan ddaeth y disgyblion i'r ochr draw yr oeddent wedi anghofio dod â bara.

6. Meddai Iesu wrthynt, “Gwyliwch a gochelwch rhag surdoes y Phariseaid a'r Sadwceaid.”

Mathew 16