Mathew 15:6-11 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.

7. Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:

8. “ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;

9. yn ofer y maent yn fy addoli,gan ddysgu gorchmynion dynol fel athrawiaethau.’ ”

10. Galwodd y dyrfa ato a dywedodd wrthynt, “Gwrandewch a deallwch.

11. Nid yr hyn sy'n mynd i mewn i enau rhywun sy'n ei halogi, ond yr hyn sy'n dod allan o'i enau, dyna sy'n halogi rhywun.”

Mathew 15