Mathew 15:36-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

36. Yna cymerodd y saith torth a'r pysgod, ac wedi diolch fe'u torrodd a'u rhoi i'r disgyblion, a'r disgyblion i'r tyrfaoedd.

37. Bwytasant oll a chael digon, a chodasant lond saith cawell o'r tameidiau oedd dros ben.

38. Yr oedd y rhai oedd yn bwyta yn bedair mil o wŷr, heblaw gwragedd a phlant.

39. Wedi gollwng y tyrfaoedd aeth Iesu i mewn i'r cwch a daeth i gyffiniau Magadan.

Mathew 15