Mathew 15:3-8 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Atebodd yntau hwy, “A pham yr ydych chwithau yn troseddu yn erbyn gorchymyn Duw er mwyn eich traddodiad?

4. Oherwydd dywedodd Duw, ‘Anrhydedda dy dad a'th fam’, a ‘Bydded farw'n gelain y sawl a felltithia ei dad neu ei fam.’

5. Ond yr ydych chwi'n dweud, ‘Os dywed rhywun wrth ei dad neu ei fam, “Offrwm i Dduw yw beth bynnag y gallasit ei dderbyn yn gymorth gennyf fi”, ni chaiff anrhydeddu ei dad.’

6. Ac yr ydych wedi dirymu gair Duw er mwyn eich traddodiad chwi.

7. Ragrithwyr, da y proffwydodd Eseia amdanoch:

8. “ ‘Y mae'r bobl hyn yn fy anrhydeddu â'u gwefusau,ond y mae eu calon ymhell oddi wrthyf;

Mathew 15