Mathew 15:15-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Dywedodd Pedr wrtho, “Eglura'r ddameg hon inni.”

16. Meddai Iesu, “A ydych chwithau'n dal mor ddiddeall?

17. Oni welwch fod popeth sy'n mynd i mewn i'r genau yn mynd i'r cylla ac yn cael ei yrru allan i'r geudy?

18. Ond y mae'r pethau sy'n dod allan o'r genau yn dod o'r galon, a dyna'r pethau sy'n halogi rhywun.

19. Oherwydd o'r galon y daw cynllunio drygionus, llofruddio, godinebu, puteinio, lladrata, camdystiolaethu, a chablu.

Mathew 15