Mathew 14:5-10 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac er bod Herod yn dymuno ei ladd, yr oedd arno ofn y bobl, am eu bod yn ystyried Ioan yn broffwyd.

6. Pan oedd Herod yn dathlu ei ben-blwydd, dawnsiodd merch Herodias gerbron y cwmni a phlesio Herod

7. gymaint nes iddo addo ar ei lw roi iddi beth bynnag a ofynnai.

8. Ar gyfarwyddyd ei mam, dywedodd hi, “Rho i mi, yma ar ddysgl, ben Ioan Fedyddiwr.”

9. Aeth y brenin yn drist, ond oherwydd ei lw ac oherwydd ei westeion gorchmynnodd ei roi iddi,

10. ac anfonodd i dorri pen Ioan yn y carchar.

Mathew 14