Mathew 14:24-27 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Yr oedd y cwch eisoes gryn bellter oddi wrth y tir, ac mewn helbul gan y tonnau, oherwydd yr oedd y gwynt yn ei erbyn.

25. Rhwng tri a chwech o'r gloch y bore daeth ef atynt dan gerdded ar y môr.

26. Pan welodd y disgyblion ef yn cerdded ar y môr, dychrynwyd hwy nes dweud, “Drychiolaeth yw”, a gweiddi gan ofn.

27. Ond ar unwaith siaradodd Iesu â hwy. “Codwch eich calon,” meddai, “myfi yw; peidiwch ag ofni.”

Mathew 14