Mathew 13:46-56 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Wedi iddo ddarganfod un perl gwerthfawr, aeth i ffwrdd a gwerthu'r cwbl oedd ganddo, a'i brynu.

47. “Eto y mae teyrnas nefoedd yn debyg i rwyd a fwriwyd i'r môr ac a ddaliodd bysgod o bob math.

48. Pan oedd yn llawn, tynnodd dynion hi i'r lan ac eistedd i lawr a chasglu'r rhai da i lestri a thaflu'r rhai gwael i ffwrdd.

49. Felly y bydd yn niwedd amser; bydd yr angylion yn mynd allan ac yn gwahanu'r drwg o blith y cyfiawn,

50. ac yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

51. “A ydych wedi deall yr holl bethau hyn?” Dywedasant wrtho, “Ydym.”

52. “Am hynny,” meddai ef wrthynt, “y mae pob ysgrifennydd a ddaeth yn ddisgybl yn nheyrnas nefoedd yn debyg i berchen tŷ sydd yn dwyn allan o'i drysorfa bethau newydd a hen.”

53. Pan orffennodd Iesu'r damhegion hyn, aeth oddi yno.

54. Ac wedi dod i fro ei febyd, yr oedd yn dysgu yn eu synagog hwy, nes iddynt synnu a dweud, “O ble y cafodd hwn y ddoethineb hon a'r gweithredoedd nerthol hyn?

55. Onid mab y saer yw hwn? Onid Mair yw enw ei fam ef, ac Iago a Joseff a Simon a Jwdas yn frodyr iddo?

56. Ac onid yw ei chwiorydd i gyd yma gyda ni? O ble felly y cafodd hwn yr holl bethau hyn?”

Mathew 13