Mathew 13:40-43 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

40. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.

41. Bydd Mab y Dyn yn anfon ei angylion, a byddant yn casglu allan o'i deyrnas ef bopeth sy'n peri tramgwydd, a'r rhai sy'n gwneud anghyfraith,

42. a byddant yn eu taflu i'r ffwrnais danllyd; bydd yno wylo a rhincian dannedd.

43. Yna bydd y rhai cyfiawn yn disgleirio fel yr haul yn nheyrnas eu Tad. Y sawl sydd â chlustiau ganddo, gwrandawed.

Mathew 13