Mathew 13:33-40 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Llefarodd ddameg arall wrthynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i lefain; y mae gwraig yn ei gymryd, ac yn ei gymysgu â thri mesur o flawd gwenith, nes lefeinio'r cwbl.”

34. Dywedodd Iesu'r holl bethau hyn ar ddamhegion wrth y tyrfaoedd; heb ddameg ni fyddai'n llefaru dim wrthynt,

35. fel y cyflawnid y gair a lefarwyd trwy'r proffwyd:“Agoraf fy ngenau ar ddamhegion,traethaf bethau sy'n guddiedig er seiliad y byd.”

36. Yna, wedi gollwng y tyrfaoedd, daeth i'r tŷ. A daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Eglura i ni ddameg yr efrau yn y maes.”

37. Dywedodd yntau, “Yr un sy'n hau'r had da yw Mab y Dyn.

38. Y maes yw'r byd. Yr had da yw plant y deyrnas; yr efrau yw plant yr Un drwg,

39. a'r gelyn a'u heuodd yw'r diafol; y cynhaeaf yw diwedd amser, a'r medelwyr yw'r angylion.

40. Yn union fel y cesglir yr efrau a'u llosgi yn y tân, felly y bydd yn niwedd amser.

Mathew 13