Mathew 13:16-32 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. “Ond gwyn eu byd eich llygaid chwi am eu bod yn gweld, a'ch clustiau chwi am eu bod yn clywed.

17. Yn wir, rwy'n dweud wrthych fod llawer o broffwydi a rhai cyfiawn wedi dyheu am weld y pethau yr ydych chwi yn eu gweld, ac nis gwelsant, a chlywed y pethau yr ydych chwi yn eu clywed, ac nis clywsant.

18. “Gwrandewch chwithau felly ar ddameg yr heuwr.

19. Pan fydd unrhyw un yn clywed gair y deyrnas heb ei ddeall, daw'r Un drwg a chipio'r hyn a heuwyd yn ei galon. Dyma'r un sy'n derbyn yr had ar hyd y llwybr.

20. A'r un sy'n derbyn yr had ar leoedd creigiog, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei dderbyn ar ei union yn llawen.

21. Ond nid oes ganddo wreiddyn ynddo'i hunan, a thros dro y mae'n para; pan ddaw gorthrymder neu erlid o achos y gair, fe gwymp ar unwaith.

22. Yr un sy'n derbyn yr had ymhlith y drain, dyma'r un sy'n clywed y gair, ond y mae gofal y byd hwn a hudoliaeth golud yn tagu'r gair, ac y mae'n mynd yn ddiffrwyth.

23. A'r un sy'n derbyn yr had ar dir da, dyma'r un sy'n clywed y gair ac yn ei ddeall, ac yn dwyn ffrwyth ac yn rhoi peth ganwaith cymaint, a pheth drigain, a pheth ddeg ar hugain.”

24. Cyflwynodd Iesu ddameg arall iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i ddyn a heuodd had da yn ei faes.

25. Ond pan oedd pawb yn cysgu, daeth ei elyn a hau efrau ymysg yr ŷd a mynd ymaith.

26. Pan eginodd y cnwd a dwyn ffrwyth, yna ymddangosodd yr efrau hefyd.

27. Daeth gweision gŵr y tŷ a dweud wrtho, ‘Syr, onid had da a heuaist yn dy faes? O ble felly y daeth efrau iddo?’

28. Atebodd yntau, ‘Gelyn a wnaeth hyn.’ Meddai'r gweision wrtho, ‘A wyt am i ni fynd allan a chasglu'r efrau?’

29. ‘Na,’ meddai ef, ‘wrth gasglu'r efrau fe allwch ddiwreiddio'r ŷd gyda hwy.

30. Gadewch i'r ddau dyfu gyda'i gilydd hyd y cynhaeaf, ac yn amser y cynhaeaf dywedaf wrth y medelwyr, “Casglwch yr efrau yn gyntaf, a rhwymwch hwy'n sypynnau i'w llosgi, ond crynhowch yr ŷd i'm hysgubor.” ’ ”

31. A dyma ddameg arall a gyflwynodd iddynt: “Y mae teyrnas nefoedd yn debyg i hedyn mwstard, a gymerodd rhywun a'i hau yn ei faes.

32. Dyma'r lleiaf o'r holl hadau, ond wedi iddo dyfu, ef yw'r mwyaf o'r holl lysiau, a daw yn goeden, fel bod adar yr awyr yn dod ac yn nythu yn ei changhennau.”

Mathew 13