Mathew 12:46-50 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

46. Tra oedd ef yn dal i siarad â'r tyrfaoedd, yr oedd ei fam a'i frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad ag ef.

47. Dywedodd rhywun wrtho, “Dacw dy fam a'th frodyr yn sefyll y tu allan yn ceisio siarad â thi.”

48. Atebodd Iesu ef, “Pwy yw fy mam, a phwy yw fy mrodyr?”

49. A chan estyn ei law at ei ddisgyblion dywedodd, “Dyma fy mam a'm brodyr i.

50. Oherwydd pwy bynnag sy'n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd, y mae hwnnw'n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.”

Mathew 12