Mathew 11:1-4 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Pan orffennodd Iesu ddysgu ei ddeuddeg disgybl, symudodd oddi yno er mwyn dysgu a phregethu yn eu trefi hwy.

2. Pan glywodd Ioan yn y carchar am weithredoedd Crist, anfonodd trwy ei ddisgyblion

3. a gofyn iddo, “Ai ti yw'r hwn sydd i ddod, ai am rywun arall yr ydym i ddisgwyl?”

4. Ac atebodd Iesu hwy, “Ewch a dywedwch wrth Ioan yr hyn yr ydych yn ei glywed ac yn ei weld.

Mathew 11