Marc 9:35-39 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

35. Eisteddodd i lawr a galwodd y Deuddeg, a dweud wrthynt, “Pwy bynnag sydd am fod yn flaenaf, rhaid iddo fod yn olaf o bawb ac yn was i bawb.”

36. A chymerodd blentyn, a'i osod yn eu canol hwy; cymerodd ef i'w freichiau, a dywedodd wrthynt,

37. “Pwy bynnag sy'n derbyn un plentyn fel hwn yn fy enw i, y mae'n fy nerbyn i, a phwy bynnag sy'n fy nerbyn i, nid myfi y mae'n ei dderbyn, ond yr hwn a'm hanfonodd i.”

38. Meddai Ioan wrtho, “Athro, gwelsom un yn bwrw allan gythreuliaid yn dy enw di, a buom yn ei wahardd, am nad oedd yn ein dilyn ni.”

39. Ond dywedodd Iesu, “Peidiwch â'i wahardd, oherwydd ni all neb sy'n gwneud gwyrth yn fy enw i roi drygair imi yn fuan wedyn.

Marc 9