Marc 9:29-33 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. Ac meddai wrthynt, “Dim ond trwy weddi y gall y math hwn fynd allan.”

30. Wedi iddynt adael y lle hwnnw, yr oeddent yn teithio trwy Galilea. Ni fynnai Iesu i neb wybod hynny,

31. oherwydd yr oedd yn dysgu ei ddisgyblion ac yn dweud wrthynt, “Y mae Mab y Dyn yn cael ei draddodi i ddwylo pobl, ac fe'i lladdant ef, ac wedi cael ei ladd, ymhen tri diwrnod fe atgyfoda.”

32. Ond nid oeddent hwy'n deall ei eiriau, ac yr oedd arnynt ofn ei holi.

33. Daethant i Gapernaum, ac wedi cyrraedd y tŷ gofynnodd iddynt, “Beth oeddech chwi'n ei drafod ar y ffordd?”

Marc 9