Marc 8:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Troes yntau, ac wedi edrych ar ei ddisgyblion ceryddodd Pedr. “Dos ymaith o'm golwg, Satan,” meddai, “oherwydd nid ar bethau Duw y mae dy fryd ond ar bethau dynol.”

34. Galwodd ato'r dyrfa ynghyd â'i ddisgyblion a dywedodd wrthynt, “Os myn neb ddod ar fy ôl i, rhaid iddo ymwadu ag ef ei hun a chodi ei groes a'm canlyn i.

35. Oherwydd pwy bynnag a fyn gadw ei fywyd, fe'i cyll, ond pwy bynnag a gyll ei fywyd er fy mwyn i a'r Efengyl, fe'i ceidw.

36. Pa elw a gaiff rhywun o ennill yr holl fyd a fforffedu ei fywyd?

37. Oherwydd beth a all rhywun ei roi'n gyfnewid am ei fywyd?

Marc 8