Marc 8:26-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

26. Anfonodd ef adref, gan ddweud, “Paid â mynd i mewn i'r pentref.”

27. Aeth Iesu a'i ddisgyblion allan i bentrefi Cesarea Philipi, ac ar y ffordd holodd ei ddisgyblion: “Pwy,” meddai wrthynt, “y mae pobl yn dweud ydwyf fi?”

28. Dywedasant hwythau wrtho, “Mae rhai'n dweud Ioan Fedyddiwr, ac eraill Elias, ac eraill drachefn, un o'r proffwydi.”

29. Gofynnodd ef iddynt, “A chwithau, pwy meddwch chwi ydwyf fi?” Atebodd Pedr ef, “Ti yw'r Meseia.”

Marc 8