Marc 8:12-16 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

12. Ochneidiodd yn ddwys ynddo'i hun. “Pam,” meddai, “y mae'r genhedlaeth hon yn ceisio arwydd? Yn wir, rwy'n dweud wrthych, ni roddir arwydd i'r genhedlaeth hon.”

13. A gadawodd hwy a mynd i'r cwch drachefn a hwylio ymaith i'r ochr draw.

14. Yr oeddent wedi anghofio dod â bara, ac nid oedd ganddynt ond un dorth gyda hwy yn y cwch.

15. A dechreuodd eu siarsio, gan ddweud, “Gwyliwch, ymogelwch rhag surdoes y Phariseaid a surdoes Herod.”

16. Ac yr oeddent yn trafod ymhlith ei gilydd y ffaith nad oedd ganddynt fara.

Marc 8