Marc 7:29-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

29. “Am iti ddweud hynny,” ebe yntau, “dos adref; y mae'r cythraul wedi mynd allan o'th ferch.”

30. Aeth hithau adref a chafodd y plentyn yn gorwedd ar y gwely, a'r cythraul wedi mynd ymaith.

31. Dychwelodd drachefn o gyffiniau Tyrus, a daeth drwy Sidon at Fôr Galilea trwy ganol bro'r Decapolis.

32. Dygasant ato ddyn byddar oedd prin yn gallu siarad, a cheisio ganddo roi ei law arno.

33. Cymerodd yntau ef o'r neilltu oddi wrth y dyrfa ar ei ben ei hun; rhoes ei fysedd yn ei glustiau, poerodd, a chyffyrddodd â'i dafod;

34. a chan edrych i fyny i'r nef ochneidiodd a dweud wrtho, “Ephphatha”, hynny yw, “Agorer di”.

Marc 7