Marc 6:5-9 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac ni allai wneud unrhyw wyrth yno, ond rhoi ei ddwylo ar ychydig gleifion a'u hiacháu.

6. Rhyfeddodd at eu hanghrediniaeth.Yr oedd yn mynd o amgylch y pentrefi dan ddysgu.

7. A galwodd y Deuddeg ato a dechrau eu hanfon allan bob yn ddau. Rhoddodd iddynt awdurdod dros ysbrydion aflan,

8. a gorchmynnodd iddynt beidio â chymryd dim ar gyfer y daith ond ffon yn unig; dim bara, dim cod, dim pres yn eu gwregys;

9. sandalau am eu traed, ond heb wisgo ail grys.

Marc 6