Marc 6:41-44 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

41. Yna cymerodd y pum torth a'r ddau bysgodyn, a chan edrych i fyny i'r nef a bendithio, torrodd y torthau a'u rhoi i'w ddisgyblion i'w gosod gerbron y bobl; rhannodd hefyd y ddau bysgodyn rhwng pawb.

42. Bwytasant oll a chael digon.

43. A chodasant ddeuddeg basgedaid o dameidiau bara, a pheth o'r pysgod.

44. Ac yr oedd y rhai oedd wedi bwyta'r torthau yn bum mil o wŷr.

Marc 6