Marc 6:33-37 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

33. Gwelodd llawer hwy'n mynd, a'u hadnabod, a rhedasant ynghyd i'r fan, dros y tir o'r holl drefi, a chyrraedd o'u blaen.

34. Pan laniodd Iesu gwelodd dyrfa fawr, a thosturiodd wrthynt am eu bod fel defaid heb fugail; a dechreuodd ddysgu llawer iddynt.

35. Pan oedd hi eisoes wedi mynd yn hwyr ar y dydd daeth ei ddisgyblion ato a dweud, “Y mae'r lle yma'n unig ac y mae hi eisoes yn hwyr.

36. Gollwng hwy, iddynt fynd i'r wlad a'r pentrefi o amgylch i brynu tipyn o fwyd iddynt eu hunain.”

37. Atebodd yntau hwy, “Rhowch chwi rywbeth i'w fwyta iddynt.” Meddent wrtho, “A ydym i fynd i brynu bara gwerth dau gant o ddarnau arian, a'i roi iddynt i'w fwyta?”

Marc 6