Marc 6:16-20 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

16. Ond pan glywodd Herod, dywedodd, “Ioan, yr un y torrais i ei ben, sydd wedi ei gyfodi.”

17. Oherwydd yr oedd Herod wedi anfon a dal Ioan, a'i roi yn rhwym yng ngharchar o achos Herodias, gwraig Philip ei frawd, am ei fod wedi ei phriodi.

18. Yr oedd Ioan wedi dweud wrth Herod, “Nid yw'n gyfreithlon iti gael gwraig dy frawd.”

19. Ac yr oedd Herodias yn dal dig wrtho ac yn dymuno ei ladd, ond ni allai,

20. oherwydd yr oedd ar Herod ofn Ioan, am ei fod yn gwybod mai gŵr cyfiawn a sanctaidd ydoedd. Yr oedd yn ei gadw dan warchodaeth; a byddai'n gwrando arno'n llawen, er ei fod, ar ôl gwrando, mewn penbleth fawr.

Marc 6