Marc 5:5-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig.

6. A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen,

7. a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.”

Marc 5