Marc 5:5-24 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

5. Ac yn wastad, nos a dydd, ymhlith y beddau ac ar y mynyddoedd, byddai'n gweiddi ac yn ei anafu ei hun â cherrig.

6. A phan welodd Iesu o bell, rhedodd a syrthio ar ei liniau o'i flaen,

7. a gwaeddodd â llais uchel, “Beth sydd a fynni di â mi, Iesu, Mab y Duw Goruchaf? Yn enw Duw, paid â'm poenydio.”

8. Oherwydd yr oedd Iesu wedi dweud wrtho, “Dos allan, ysbryd aflan, o'r dyn.”

9. A gofynnodd iddo, “Beth yw dy enw?” Meddai yntau wrtho, “Lleng yw fy enw, oherwydd y mae llawer ohonom.”

10. Ac yr oedd yn ymbil yn daer arno beidio â'u gyrru allan o'r wlad.

11. Yr oedd yno ar lethr y mynydd genfaint fawr o foch yn pori.

12. Ac ymbiliodd yr ysbrydion aflan arno, “Anfon ni i'r moch; gad i ni fynd i mewn iddynt hwy.”

13. Ac fe ganiataodd iddynt. Aeth yr ysbrydion aflan allan o'r dyn ac i mewn i'r moch; a rhuthrodd y genfaint dros y dibyn i'r môr, tua dwy fil ohonynt, a boddi yn y môr.

14. Ffodd bugeiliaid y moch ac adrodd yr hanes yn y dref ac yn y wlad, a daeth y bobl i weld beth oedd wedi digwydd.

15. Daethant at Iesu a gweld y dyn, hwnnw yr oedd y lleng cythreuliaid wedi bod ynddo, yn eistedd â'i ddillad amdano ac yn ei iawn bwyll; a daeth arnynt ofn.

16. Adroddwyd wrthynt gan y rhai oedd wedi gweld beth oedd wedi digwydd i'r dyn ym meddiant cythreuliaid, a'r hanes am y moch hefyd.

17. A dechreusant erfyn arno fynd ymaith o'u gororau.

18. Ac wrth iddo fynd i mewn i'r cwch, yr oedd y dyn a oedd wedi bod ym meddiant y cythreuliaid yn erfyn arno am gael bod gydag ef.

19. Ni adawodd iddo, ond meddai wrtho, “Dos adref at dy bobl dy hun a mynega iddynt gymaint y mae'r Arglwydd wedi ei wneud drosot, a'r modd y tosturiodd wrthyt.”

20. Aeth yntau ymaith a dechrau cyhoeddi yn y Decapolis gymaint yr oedd Iesu wedi ei wneud drosto; ac yr oedd pawb yn rhyfeddu.

21. Wedi i Iesu groesi'n ôl yn y cwch i'r ochr arall, daeth tyrfa fawr ynghyd ato, ac yr oedd ar lan y môr.

22. Daeth un o arweinwyr y synagog, o'r enw Jairus, a phan welodd ef syrthiodd wrth ei draed

23. ac ymbil yn daer arno: “Y mae fy merch fach,” meddai, “ar fin marw. Tyrd a rho dy ddwylo arni, iddi gael ei gwella a byw.”

24. Ac aeth Iesu ymaith gydag ef.Yr oedd tyrfa fawr yn ei ganlyn ac yn gwasgu arno.

Marc 5