Marc 5:31-34 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ”

32. Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn.

33. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir.

34. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”

Marc 5