Marc 5:27-36 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

27. Yr oedd hon wedi clywed am Iesu, a daeth o'r tu ôl iddo yn y dyrfa a chyffwrdd â'i fantell,

28. oherwydd yr oedd hi wedi dweud, “Os cyffyrddaf hyd yn oed â'i ddillad ef, fe gaf fy iacháu.”

29. A sychodd llif ei gwaed hi yn y fan, a daeth hithau i wybod yn ei chorff ei bod wedi ei hiacháu o'i chlwyf.

30. Ac ar unwaith deallodd Iesu ynddo'i hun fod y nerth oedd yn tarddu ynddo wedi mynd allan, a throes yng nghanol y dyrfa, a gofyn, “Pwy gyffyrddodd â'm dillad?”

31. Meddai ei ddisgyblion wrtho, “Yr wyt yn gweld y dyrfa'n gwasgu arnat ac eto'n gofyn, ‘Pwy gyffyrddodd â mi?’ ”

32. Ond daliodd ef i edrych o'i gwmpas i weld yr un oedd wedi gwneud hyn.

33. Daeth y wraig, dan grynu yn ei braw, yn gwybod beth oedd wedi digwydd iddi, a syrthiodd o'i flaen ef a dweud wrtho'r holl wir.

34. Dywedodd yntau wrthi hi, “Ferch, y mae dy ffydd wedi dy iacháu di. Dos mewn tangnefedd, a bydd iach o'th glwyf.”

35. Tra oedd ef yn llefaru, daeth rhywrai o dŷ arweinydd y synagog a dweud, “Y mae dy ferch wedi marw; pam yr wyt yn poeni'r Athro bellach?”

36. Ond anwybyddodd Iesu y neges, a dywedodd wrth arweinydd y synagog, “Paid ag ofni, dim ond credu.”

Marc 5