8. Daeth y dyrfa i fyny a dechrau gofyn i Pilat wneud yn ôl ei arfer iddynt.
9. Atebodd Pilat hwy: “A fynnwch i mi ryddhau i chwi Frenin yr Iddewon?”
10. Oherwydd gwyddai mai o genfigen yr oedd y prif offeiriaid wedi ei draddodi ef.
11. Ond cyffrôdd y prif offeiriaid y dyrfa i geisio ganddo yn hytrach ryddhau Barabbas iddynt.
12. Atebodd Pilat drachefn, ac meddai wrthynt, “Beth, ynteu, a wnaf â hwn yr ydych yn ei alw yn Frenin yr Iddewon?”
13. Gwaeddasant hwythau yn ôl, “Croeshoelia ef.”
14. Meddai Pilat wrthynt, “Ond pa ddrwg a wnaeth ef?” Gwaeddasant hwythau yn uwch byth, “Croeshoelia ef.”
15. A chan ei fod yn awyddus i fodloni'r dyrfa, rhyddhaodd Pilat Barabbas iddynt, a thraddododd Iesu, ar ôl ei fflangellu, i'w groeshoelio.
16. Aeth y milwyr ag ef ymaith i mewn i'r cyntedd, hynny yw, i'r Praetoriwm, a galw ynghyd yr holl fintai.
17. A gwisgasant ef â phorffor, a phlethu coron ddrain a'i gosod am ei ben.