Marc 15:20-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

20. Ac wedi iddynt ei watwar, tynasant y porffor oddi amdano a'i wisgo ef â'i ddillad ei hun. Yna aethant ag ef allan i'w groeshoelio.

21. Gorfodasant un oedd yn mynd heibio ar ei ffordd o'r wlad, Simon o Cyrene, tad Alexander a Rwffus, i gario ei groes ef.

22. Daethant ag ef i'r lle a elwir Golgotha, hynny yw, o'i gyfieithu, “Lle Penglog”.

23. Cynigiasant iddo win â myrr ynddo, ond ni chymerodd ef.

Marc 15