Marc 14:31-41 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

31. Ond taerai yntau'n fwy byth, “Petai'n rhaid imi farw gyda thi, ni'th wadaf byth.” A'r un modd yr oeddent yn dweud i gyd.

32. Daethant i le o'r enw Gethsemane, ac meddai ef wrth ei ddisgyblion, “Eisteddwch yma tra byddaf yn gweddïo.”

33. Ac fe gymerodd gydag ef Pedr ac Iago ac Ioan, a dechreuodd deimlo arswyd a thrallod dwys,

34. ac meddai wrthynt, “Y mae f'enaid yn drist iawn hyd at farw. Arhoswch yma a gwyliwch.”

35. Aeth ymlaen ychydig, a syrthiodd ar y ddaear a gweddïo ar i'r awr, petai'n bosibl, fynd heibio iddo.

36. “Abba! Dad!” meddai, “y mae pob peth yn bosibl i ti. Cymer y cwpan hwn oddi wrthyf. Eithr nid yr hyn a fynnaf fi, ond yr hyn a fynni di.”

37. Daeth yn ôl a'u cael hwy'n cysgu, ac meddai wrth Pedr, “Simon, ai cysgu yr wyt ti? Oni ellaist wylio am un awr?

38. Gwyliwch, a gweddïwch na ddewch i gael eich profi. Y mae'r ysbryd yn barod ond y cnawd yn wan.”

39. Aeth ymaith drachefn a gweddïo, gan lefaru'r un geiriau.

40. A phan ddaeth yn ôl fe'u cafodd hwy'n cysgu eto, oherwydd yr oedd eu llygaid yn drwm; ac ni wyddent beth i'w ddweud wrtho.

41. Daeth y drydedd waith, a dweud wrthynt, “A ydych yn dal i gysgu a gorffwys? Dyna ddigon. Daeth yr awr; dyma Fab y Dyn yn cael ei fradychu i ddwylo pechaduriaid.

Marc 14