Marc 13:19-23 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

19. oblegid bydd y dyddiau hynny yn orthrymder na fu ei debyg o ddechrau'r greadigaeth a greodd Duw hyd yn awr, ac na fydd byth.

20. Ac oni bai fod yr Arglwydd wedi byrhau'r dyddiau, ni fuasai neb byw wedi ei achub; ond er mwyn yr etholedigion a etholodd, fe fyrhaodd y dyddiau.

21. Ac yna, os dywed rhywun wrthych, ‘Edrych, dyma'r Meseia’, neu, ‘Edrych, dacw ef’, peidiwch â'i gredu.

22. Oherwydd fe gyfyd gau feseiau a gau broffwydi, a rhoddant arwyddion a rhyfeddodau i arwain ar gyfeiliorn yr etholedigion, petai hynny'n bosibl.

23. Ond gwyliwch chwi; yr wyf wedi dweud y cwbl wrthych ymlaen llaw.

Marc 13