24. Meddai Iesu wrthynt, “Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw?
25. Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd.
26. Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’?
27. Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn.”
28. Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'run yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?”
29. Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd,
30. a châr yr Arglwydd dy Dduw â'th holl galon ac â'th holl enaid ac â'th holl feddwl ac â'th holl nerth.’
31. Yr ail yw hwn, ‘Câr dy gymydog fel ti dy hun.’ Nid oes gorchymyn arall mwy na'r rhain.”
32. Dywedodd yr ysgrifennydd wrtho, “Da y dywedaist, Athro; gwir mai un ydyw ac nad oes Duw arall ond ef.
33. Ac y mae ei garu ef â'r holl galon ac â'r holl ddeall ac â'r holl nerth, a charu dy gymydog fel ti dy hun, yn rhagorach na'r holl boethoffrymau a'r aberthau.”
34. A phan welodd Iesu ei fod wedi ateb yn feddylgar, dywedodd wrtho, “Nid wyt ymhell oddi wrth deyrnas Dduw.” Ac ni feiddiai neb ei holi ddim mwy.
35. Wrth ddysgu yn y deml dywedodd Iesu, “Sut y mae'r ysgrifenyddion yn gallu dweud bod y Meseia yn Fab Dafydd?
36. Dywedodd Dafydd ei hun, trwy'r Ysbryd Glân:“ ‘Dywedodd yr Arglwydd wrth fy Arglwydd i,“Eistedd ar fy neheulawnes imi osod dy elynion dan dy draed.” ’
37. “Y mae Dafydd ei hun yn ei alw'n Arglwydd; sut felly y mae'n fab iddo?” Yr oedd y dyrfa fawr yn gwrando arno'n llawen.
38. Ac wrth eu dysgu, meddai, “Ymogelwch rhag yr ysgrifenyddion sy'n hoffi rhodianna mewn gwisgoedd llaes, a chael cyfarchiadau yn y marchnadoedd,
39. a'r prif gadeiriau yn y synagogau, a'r seddau anrhydedd mewn gwleddoedd.
40. Dyma'r rhai sy'n difa cartrefi gwragedd gweddwon, ac mewn rhagrith yn gweddïo'n faith; fe dderbyn y rhain drymach dedfryd.”