Marc 12:24-29 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

24. Meddai Iesu wrthynt, “Onid dyma achos eich cyfeiliorni, eich bod heb ddeall na'r Ysgrythurau na gallu Duw?

25. Oherwydd pan atgyfodant oddi wrth y meirw, ni phriodant ac ni phriodir hwy; y maent fel angylion yn y nefoedd.

26. Ond ynglŷn â bod y meirw yn codi, onid ydych wedi darllen yn llyfr Moses, yn hanes y Berth, sut y dywedodd Duw wrtho, ‘Myfi, Duw Abraham a Duw Isaac a Duw Jacob ydwyf’?

27. Nid Duw'r meirw yw ef, ond y rhai byw. Yr ydych ymhell ar gyfeiliorn.”

28. Daeth un o'r ysgrifenyddion ato, wedi eu clywed yn dadlau, ac yn gweld ei fod wedi eu hateb yn dda, a gofynnodd iddo, “P'run yw'r gorchymyn cyntaf o'r cwbl?”

29. Atebodd Iesu, “Y cyntaf yw, ‘Gwrando, O Israel, yr Arglwydd ein Duw yw'r unig Arglwydd,

Marc 12