Marc 12:2-6 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

2. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan.

3. Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

4. Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu.

5. Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill.

6. Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’

Marc 12