Marc 12:11-19 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

11. gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?”

12. Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith.

13. Anfonwyd ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid i'w faglu ar air.

14. Daethant, ac meddent wrtho, “Athro, gwyddom dy fod yn ddiffuant, ac na waeth gennyt am neb; yr wyt yn ddi-dderbyn-wyneb, ac yn dysgu ffordd Duw yn gwbl ddiffuant. A yw'n gyfreithlon talu treth i Gesar, ai nid yw? A ydym i dalu, neu beidio â thalu?”

15. Deallodd yntau eu rhagrith, ac meddai wrthynt, “Pam yr ydych yn rhoi prawf arnaf? Dewch â darn arian yma, imi gael golwg arno.”

16. A daethant ag un, ac meddai ef wrthynt, “Llun ac arysgrif pwy sydd yma?” Dywedasant hwythau wrtho, “Cesar.”

17. A dywedodd Iesu wrthynt, “Talwch bethau Cesar i Gesar, a phethau Duw i Dduw.” Ac yr oeddent yn rhyfeddu ato.

18. Daeth ato Sadwceaid, y bobl sy'n dweud nad oes dim atgyfodiad, a dechreusant ei holi.

19. “Athro,” meddent, “ysgrifennodd Moses ar ein cyfer, ‘Os bydd rhywun farw, a gadael gwraig, ond heb adael plentyn, y mae ei frawd i gymryd y wraig ac i godi plant i'w frawd.’

Marc 12