Marc 12:1-3 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.

2. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan.

3. Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

Marc 12