Marc 12:1-13 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

1. Dechreuodd lefaru wrthynt ar ddamhegion. “Fe blannodd rhywun winllan, a chododd glawdd o'i hamgylch, a chloddio cafn i'r gwinwryf, ac adeiladu tŵr. Gosododd hi i denantiaid, ac aeth oddi cartref.

2. Pan ddaeth yn amser, anfonodd was at y tenantiaid i dderbyn ganddynt gyfran o ffrwyth y winllan.

3. Daliasant hwythau ef, a'i guro, a'i yrru i ffwrdd yn waglaw.

4. Anfonodd drachefn was arall atynt; trawsant hwnnw ar ei ben a'i amharchu.

5. Ac anfonodd un arall; lladdasant hwnnw. A llawer eraill yr un fath: curo rhai a lladd y lleill.

6. Yr oedd ganddo un eto, mab annwyl; anfonodd ef atynt yn olaf, gan ddweud, ‘Fe barchant fy mab.’

7. Ond dywedodd y tenantiaid hynny wrth ei gilydd, ‘Hwn yw'r etifedd; dewch, lladdwn ef, a bydd yr etifeddiaeth yn eiddo i ni.’

8. A chymerasant ef, a'i ladd, a'i fwrw allan o'r winllan.

9. Beth ynteu a wna perchen y winllan? Fe ddaw ac fe ddifetha'r tenantiaid, ac fe rydd y winllan i eraill.

10. Onid ydych wedi darllen yr Ysgrythur hon:“ ‘Y maen a wrthododd yr adeiladwyr,hwn a ddaeth yn faen y gongl;

11. gan yr Arglwydd y gwnaethpwyd hyn,ac y mae'n rhyfeddol yn ein golwg ni’?”

12. Ceisiasant ei ddal ef, ond yr oedd arnynt ofn y dyrfa, oherwydd gwyddent mai yn eu herbyn hwy y dywedodd y ddameg. A gadawsant ef a mynd ymaith.

13. Anfonwyd ato rai o'r Phariseaid ac o'r Herodianiaid i'w faglu ar air.

Marc 12