Marc 11:6-12 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

6. Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.

7. Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.

8. Taenodd llawer eu mentyll ar y ffordd, ac eraill ganghennau deiliog yr oeddent wedi eu torri o'r meysydd.

9. Ac yr oedd y rhai ar y blaen a'r rhai o'r tu ôl yn gweiddi:“Hosanna!Bendigedig yw'r un sy'n dod yn enw'r Arglwydd.

10. Bendigedig yw'r deyrnas sy'n dod, teyrnas ein tad Dafydd;Hosanna yn y goruchaf!”

11. Aeth i mewn i Jerwsalem ac i'r deml, ac wedi edrych o'i gwmpas ar bopeth, gan ei bod eisoes yn hwyr, aeth allan i Fethania gyda'r Deuddeg.

12. Trannoeth, wedi iddynt ddod allan o Fethania, daeth chwant bwyd arno.

Marc 11