Marc 11:3-7 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

3. Ac os dywed rhywun wrthych, ‘Pam yr ydych yn gwneud hyn?’ dywedwch, ‘Y mae ar y Meistr ei angen, a bydd yn ei anfon yn ôl yma yn union deg.’ ”

4. Aethant ymaith a chawsant ebol wedi ei rwymo wrth ddrws y tu allan ar yr heol, a gollyngasant ef.

5. Ac meddai rhai o'r sawl oedd yn sefyll yno wrthynt, “Beth ydych yn ei wneud, yn gollwng yr ebol?”

6. Atebasant hwythau fel yr oedd Iesu wedi dweud, a gadawyd iddynt fynd.

7. Daethant â'r ebol at Iesu a bwrw eu mentyll arno, ac eisteddodd yntau ar ei gefn.

Marc 11