Marc 11:15-22 Beibl Cymraeg Newydd Diwygiedig yn cynnwys yr Apocryffa 2004 (BCND)

15. Daethant i Jerwsalem. Aeth i mewn i'r deml a dechreuodd fwrw allan y rhai oedd yn gwerthu a'r rhai oedd yn prynu yn y deml; taflodd i lawr fyrddau'r cyfnewidwyr arian a chadeiriau'r rhai oedd yn gwerthu colomennod,

16. ac ni adawai i neb gludo dim trwy'r deml.

17. A dechreuodd eu dysgu a dweud wrthynt, “Onid yw'n ysgrifenedig:“ ‘Gelwir fy nhŷ i yn dŷ gweddi i'r holl genhedloedd,ond yr ydych chwi wedi ei wneud yn ogof lladron’?”

18. Clywodd y prif offeiriaid a'r ysgrifenyddion am hyn, a dechreusant geisio ffordd i'w ladd ef, achos yr oedd arnynt ei ofn, gan fod yr holl dyrfa wedi ei syfrdanu gan ei ddysgeidiaeth.

19. A phan aeth hi'n hwyr aethant allan o'r ddinas.

20. Yn y bore, wrth fynd heibio, gwelsant y ffigysbren wedi crino o'r gwraidd.

21. Cofiodd Pedr, a dywedodd wrtho, “Rabbi, edrych, y mae'r ffigysbren a felltithiaist wedi crino.”

22. Atebodd Iesu hwy: “Bydded gennych ffydd yn Nuw;

Marc 11